Ken Skates AC/AM
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth
Cabinet Secretary for Economy and Transport
Nick Ramsay AC
Cadeirydd
Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
09 Mai 2018
Annwyl Nick
Diolch am eich llythyr dyddiedig 15 Mawrth 2018 yn gofyn am gopi o bapur y Cabinet dyddiedig 27 Mehefin 2017 ynghylch prosiect Cylchffordd Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru'n cydnabod swyddogaeth bwysig y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus o safbwynt helpu i sicrhau bod safonau uchel mewn bywyd cyhoeddus yn cael eu cynnal ac rydym yn ceisio helpu'r Pwyllgor â'i waith ymhob ffordd bosibl. Rwyf hefyd yn cydnabod y sicrwydd y gwnaethoch ei nodi yn y llythyr ynghylch sut y byddech yn ymdrin â natur gyfrinachol y papur ei hun.
Rwyf wedi ystyried eich cais yn ofalus ac wedi ymgynghori â'r Prif Weinidog ynghylch y mater hwn. Rydym yn teimlo, fodd bynnag, na allwn gytuno i ryddhau'r papur. Rwyf i a'r Prif Weinidog yn fodlon bod y swyddogion allweddol yn ymwybodol o'r ffeithiau perthnasol tra roeddent yn paratoi'r cyngor a nodwyd ym mhapur y Cabinet. Rydym hefyd o'r farn fod y papur yn ddigon cynhwysfawr er mwyn galluogi aelodau eraill y Cabinet i wneud penderfyniad terfynol ynghylch y prosiect. Er fy mod yn derbyn y byddai'r Pwyllgor yn dymuno gweld y papur ei hun fel rhan o'i waith, rydym wedi dod i'r casgliad y dylai'r confensiynau arferol ynghylch dal yn ôl bapurau sensitif y Cabinet er mwyn gwarchod preifatrwydd trafodaethau polisi a masnachol y Llywodraeth fod yn berthnasol i'r achos hwn.
Mae'n ddrwg gen i na allaf roi ymateb mwy positif i chi ac rwy'n gobeithio y bydd eich Pwyllgor yn deall y rhesymau pam na allwn gytuno i'r cais hwn.
Yn gywir
Ken Skates AC/AM
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth
Cabinet Secretary for Economy and Transport
Canolfan Cyswllt Cyntaf / First Point of Contact Centre:
Bae Caerdydd • Cardiff Bay 0300 0604400
Caerdydd • Cardiff Gohebiaeth.Ken.Skates@llyw.cymru
CF99 1NA Correspondence.Ken.Skates@gov.wales
Rydym yn croesawu derbyn gohebiaeth yn Gymraeg. Byddwn yn ateb gohebiaeth a dderbynnir yn Gymraeg yn Gymraeg ac ni fydd gohebu yn Gymraeg yn arwain at oedi.
We welcome receiving correspondence in Welsh. Any correspondence received in Welsh will be answered in Welsh and corresponding in Welsh will not lead to a delay in responding.